Ar 2 Hydref 2025, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agor arddangosfa barhaol newydd – gofod pwerus sy’n dathlu un o’r ymgyrchoedd heddwch mwyaf ysbrydoledig yn hanes Cymru: Deiseb Heddwch Menywod Cymru.
Dyma le i ddysgu, myfyrio, ac ysbrydoli – lle mae hanes yn cwrdd â gobaith, a lle mae gweithredu’n dechrau, ar gyfer adeiladu dyfodol heddychlon i Gymru a’r byd.
Yn ganolog i’r arddangosfa Heddychwyr bydd copi o’r apêl eiconig a’r gist dderw enwog a gludodd y neges heddwch dros Fôr yr Iwerydd i America. Bydd tudalennau’r ddeiseb yn cael eu dangos ochr yn ochr â straeon y merched a’i llofnododd – un stori ar y tro, gan ddechrau gyda hanes Annie Hughes Griffiths. Bydd eitemau personol o’i harchif yn cael eu harddangos, gan gynnwys y dyddiadur a gadwodd ar y daith drawsatlantig honno – gyda’i geiriau hi ei hun yn dod yn fyw mewn sain a ffilm.
Ond nid hanes yn unig yw hwn. Bydd ymwelwyr yn gallu chwilio am enwau eu teuluoedd yn y ddeiseb drwy gyfrifiaduron yn y gofod, diolch i broses dorfol o drawsysgrifio gan y Llyfrgell. Bydd modd iddynt fyfyrio, rhannu eu neges heddwch eu hunain, a dod yn rhan o’r stori heddwch sy’n parhau hyd heddiw.
Darllenwch fwy am yr arddangosfa a'r datganiad i'r wasg sy'n dathlu'r agoriad.
Categori: Newyddion