Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Yn gyfrifol am bob agwedd o lywodraethiant y Llyfrgell, gan gynnwys gweinyddiaeth Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’i Bwyllgorau, a materion cydymffurfiaeth.
Yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth weinyddol i’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd a’r ddau Gyfarwyddwr, a gweinyddu dyddiadur y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd.
Cyfrifoldeb dros arwain ar gyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus a ymwneud â rhanddeiliaid a phartneriaid, ynghyd â chynhyrchu incwm a chodi arian.
Yn gyfrifol am bob agwedd o adnoddau dynol y Llyfrgell gan gynnwys iechyd a lles staff, hyfforddiant, a chydymffurfiaeth â pholisiau a deddfwriaeth cyflogaeth.
Y Prif Weithredwr sydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Llyfrgell yn cyflawni ei gofynion statudol a’i hamcanion elusennol drwy arwain y staff a thrwy roi cyfeiriad strategol i weithrediadau'r sefydliad. Mae’r PW hefyd yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu ac yn cymryd cyfrioldeb am berfformiad ac am wariant y Llyfrgell.
Mae Owain wedi bod yn aelod o dim Gweithredol y Llyfrgell Genedlaethol ers 2019. Mae ganddo MPhys a PhD mewn Ffiseg ac mae’n cyfarwyddo’r adrannau sy’n gyfrifol am gasglu, gwarchod a rhoi mynediad i holl gasgliadau’r Llyfrgell ar y safle ac arlein. Mae ganddo gyfrifoldeb hefyd am isadeiledd digidol a gwasanaethau digidol y Llyfrgell