Symud i'r prif gynnwys

Arddangosfeydd Digidol

Mae ein harddangosfeydd digidol yn cyflwyno trawsdoriad o eitemau o’n casgliadau.

Dewch i fyd y Mabinogion yn Llyfyr Gwyn Rhydderch, neu mentrwch i'r traeth ar noson olau leuad gydag un o smyglwyr Cymru. Troediwch i Versailles gyda David Lloyd George yn y Rhyfel Byd Cyntaf neu rhyfeddwch at y ffotograffau cynharaf o Gymru. Mae stori Cymru yn aros amdanoch.

Mwynhewch ein harddangosfeydd digidol

Gwasanaeth Addysg

O ymweliadau i'r Llyfrgell a’r profiad o weld trysorau ein cenedl, i adnoddau digidol cyffrous a gafaelgar, a phrosiectau diddorol ac uchelgeisiol, mae gan ein Gwasanaeth Addysg lawer i'w gynnig.

Trefnwch ymweliad am ddim i'r Llyfrgell gyda'n staff profiadol ya mwynhewch taith am ddim tu ôl i'r llenni.

Mae gennym hefyd ystod o becynnau dysgu digidol sy’n defnyddio'n casgliadau i gyflawni gofynion Cwricwlwm Cymru.

Dysgu mwy am y Gwasanaeth Addysg


Ymchwil LlGC

Fel sefydliad dysg, mae’r Llyfrgell yn frwd iawn i gyfrannu at y maes ymchwil. Fe sefydlwyd y Rhaglen Ymchwil ar gyfer Casgliadau Digidol (Ymchwil LlGC) yn 2011. Diddordeb y rhaglen yw edrych ar ddefnydd casgliadau digidol ac asesu sut y gellir gwella’r ffordd y maent yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil, addysgu, neu ymgysylltu â'r gymuned. Y gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn arwain at ddatblygu cynnwys digidol newydd.

Dysgu mwy am y Rhaglen Ymchwil


Dilynwch Ni

Hoffech chi glywed ein holl newyddion diweddaraf? Neu beth am ddarganfod eitemau newydd a chyffrous o'n casgliadau? Yna dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, neu tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr neu flog i'ch ebost. 

Dilynwch ni