Symud i'r prif gynnwys

Yn sgil y fenter, mae modd i ddefnyddwyr gael mynediad i stôr eang o wrthrychau testunol, gyda llawer ohonynt i’w gweld am y tro cyntaf ar lwyfan ddigidol: o lawysgrifau i gyfrolau print, cyfnodolion i bapurau newyddion.

Cafodd yr eitemau eu trin a’u trafod mewn cyfresi golygyddol, oll yn ffocysu, mewn rhyw fodd neu’i gilydd ar ddatblygiad llythrennedd yn Ewrop. Buom fel partneriaid yn cydweithio ar ystod o gynnwys curadurol, o arddangosfeydd digidol a blogiau i galerïau gweledol, a fu’n asesu arwyddocâd y gwrthrychau mewn cyd-destun Traws-ewropeaidd. Cyhoeddwyd yr elfennau curadurol yma ar Europeana Collections o fis Hydref 2018 ymlaen.

Themâu