Symud i'r prif gynnwys

Mae datblygiad Llyfrgell Glan-yr-afon hefyd yn cynnwys caffi, hwb cynghori, llyfrgell gyhoeddus a chanolfan gwybodaeth i dwristiaid. Yn yr oriel ceir rhaglen thematig o arddangosfeydd sy'n newid bob 6 mis, ac arddangosfa barhaol am hanes, diwylliant a chwedlau Sir Benfro. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yn Llyfrgell Glan-yr-afon ochr yn ochr â'r arddangosfeydd, a rhaglen o weithgareddau addysg.