Symud i'r prif gynnwys

Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth a thips i chi ar sut i ddefnyddio’r Catalogau, ond hefyd gwybodaeth benodol am sut i fynd ati i wneud ymchwil hanes teulu.


Tudalennau Cymorth Catalogau

Mae defnyddio Catalogau newydd am y tro cyntaf yn gallu bod yn anodd, felly mae gennym dudalennau cymorth ar gyfer pob un o’n prif adnoddau chwilio:

Sut i wneud ymchwil Hanes Teulu

Mae’r Llyfrgell yn drysorfa o wybodaeth ar gyfer archwilio’ch hanes teulu.

O’r casgliad ewyllysiau i ymrwymiadau priodas, neu’r papurau ystadau i gofnodion yr Eglwys yng Nghymru, mae hanes teuluoedd Cymru ar gof a chadw yn y Llyfrgell.

Os ydych chi’n newydd i’r maes a ddim yn siwr lle i ddechrau, gall ein tudalennau cymorth eich rhoi ar ben ffordd. Yn yr un modd, os ydych chi wedi bod yn gwneud ymchwil mewn mannau eraill, bydd ein tudalennau cymorth hanes teulu yn esbonio beth sydd ar gael yn y Llyfrgell.

Cymorth gyda’ch hanes teulu

Taflenni Gwybodaeth

Mae gennym gyfres o daflenni gwybodaeth y gallwch chi eu defnyddio o unrhyw le. Mae’r rhain yn rhoi cyflwyniad i chi i rai o’r casgliadau sydd yn y Llyfrgell. Maent yn fan cychwyn gwych er mwyn dysgu mwy am y casgliadau sydd gan y Llyfrgell i’w cynnig.

Pori taflenni gwybodaeth


Defnyddio’r Ystafell Ddarllen

Gall unrhyw un dros 16 oed gofrestru fel darllenydd er mwyn defnyddio’n Hystafell Ddarllen.

  • Mae angen dangos 2 brawf adnabod (un yn nodi cyfeiriad cyfredol) i gael tocyn darllen llawn

Gallwch archebu eitemau o’r casgliadau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen ar y Prif Gatalog ac Archifau a Llawysgrifau LlGC yn unig.

Cofrestru a defnyddio’r Ystafell Ddarllen