Symud i'r prif gynnwys

Mae rhaglen goffáu’r Llyfrgell yn rhan allweddol o Raglen Cymru'n Cofio 1914-1918, Llywodraeth Cymru.

Cymru'n Cofio - Wales Remembers 1914-1918 yw'r wefan swyddogol ar gyfer cael gwybodaeth am goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Ceir gwybodaeth am newyddion, projectau, digwyddiadau a gwasanaethau cyfeirio ar gyfer y rhaglen goffáu yng Nghymru a gynhelir rhwng 2014 a 2018

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi lansio ei phrif raglen o ddigwyddiadau ac adnoddau i goffáu’r Rhyfel Byd 1af ac i gyfrannu at ein dealltwriaeth o’i hetifeddiaeth. Cafodd ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli ar Awst 6ed ym mhresenoldeb y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Prif ffocws ein rhaglen yn y Llyfrgell yn Aberystwyth, ac yn safleoedd ein partneriaid cymunedol, fydd y digwyddiadau ym 1914-18 a gafodd effaith benodol Gymreig. Ein bwriad yw cefnogi ymchwil i dreftadaeth ddogfennol Cymru er mwyn tynnu sylw at hanesion y Rhyfel Byd 1af a fu’n gudd, ac i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r cyfnod yma mewn hanes. Mae hyn yn gyfle pwysig i gynnal gweithredoedd ymgysylltu cymunedol wedi’u hanelu at bob oedran, drwy ymchwilio etifeddiaeth amlochrog effaith y Rhyfel: ar iaith, crefydd, diwylliant, gwleidyddiaeth, celf a cherddoriaeth. Gwahoddwn bawb i gymeryd rhan yn y rhaglen yma.

Cyd-destun ein rhaglen yw Rhaglen Llywodraeth Cymru o'r Rhyfel Byd 1af, Cymru’n Cofio - Wales Remembers 1914-18. I rannu gwybodaeth neu i ddarganfod mwy, ewch i edrych ar gyfrif Twitter y Llyfrgell neu gyfrif Twitter Cymru’n Cofio.

Caiff ein rhaglen Cymru’n Cofio - Wales Remembers 1914-1918 a gweithgareddau perthnasol eu cefnogi’n hael gan Lywodraeth Cymru (CyMAL), Jisc, Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Cronfa Treftadaeth y Loteri, Cronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a chyfranwyr eraill.

Papurau Newydd Cymru a Chylchgronau Cymru Arlein

Mae papurau newydd gwreiddiol yn ffordd bwysig i ddilyn y Rhyfel o ddydd-i-ddydd, ac i gael persbectif gwahanol ar ddigwyddiadau. Diolch i arian o’r U.E. a Llywodraeth Cymru, mae’r Llyfrgell wedi galluogi defnyddwyr i chwilio dros filiwn o dudalennau o bapurau newydd Cymreig arlein yn Gymraeg a Saesneg o 1804-1919 yn Papurau Newydd Cymru Arlein. Mae testun y papurau newydd wedi bod drwy broses adnabod nodau’n optegol, sy’n gwneud y testun yn gyfangwbl chwiliadwy.

Mae Cylchgronau Cymru Arlein yn cynnig mynediad i ysgolheictod o Gymru i 50 o ôl-deitlau, o gyhoeddiadau acadmaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoglogaidd.

Rydym hefyd yn annog ein defnyddwyr i bori drwy ein casgliadau celf a ffotograffau digidol, gan eu bod hwythau hefyd yn cynnwys deunydd allweddol o 1914-18, ac mae Archif Sgrin a Sain Cenedlaethol Cymru hefyd yn ffynhonnell bwysig o ddeunydd ar gyfer astudiaeth.

Casgliad y Werin, Cymru – Cynnwys a Chymuned

Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau cynnwys cymunedol llwyddiannus gan Casgliad y Werin, Cymru ar gyfer gwefan Cymru 1914, a’r gobaith yw cynnal digwyddiadau tebyg drwy 2014-19.

Arddangosfeydd

Daeth arddangosfa Lloyd George: Y Dewin, Yr Afr, a'r Dyn Enillodd y Rhyfel/Lloyd George: The Wizard, the Goat and the Man Who Won the War, i ben ym mis Mai 2014. Bydd eitemau o’r arddangosfa yn cael eu digido ac yn mynd yn rhan o arddangosfa arlein fydd yn byw ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru am weddill y canmlwyddiant.

Mae paratoadau cynnar wedi cychwyn ar gyfer 2016 ar thema Mametz Wood, wedi seilio ar waith gan y ffotgraffydd Aled Rhys Hughes ac ‘In Parenthesis’ gan David Jones.

Bydd arddangosfa o lawysgrifau, deunydd archifol a llyfrau cynnar yn edrych ar sut mae’r rhyfel wedi cael ei gynrychioli mewn llenyddiaeth Gymreig yn digwydd yn y Llyfrgell ym 2016. Bydd hyn yn gyfle i ddod â Llyfr Aneurin (Brwydr Catraeth) ac eitemau o Archifau David Jones (Mametz Wood) ynghŷd.

Arddangosfeydd ‘Pop-up’

Drwy gydol 2014-18 byddwn yn datblygu arddangosfeydd bach, pwrpasol, gydag arddangosfeydd arlein perthnasol, cyhoeddiadau, trafodaethau, a digwyddiadau o gwmpas ffocws y coffáu Cymreig. Bwriadwn gynnal y digwyddiadau yma mewn lleoliadau o fewn y Llyfrgell, yn y sefydliadau sy’n bartneriaid cymunedol, ac arlein.

Y cyntaf o’r rhain yw’r arddangofa arlein: The Great War and the Valleys Merthyr Tydfil and the Cynon Valley, a ddatblygwyd gan Paul O’Leary o Adran Hanes Prifysgol Aberystwyth.

Prosiect Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Mae Prosiect Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynhyrchu deunydd addysgiadol sydd yn galluogi pobl ifanc Cymru i ddeall sut y bu i Gymru a’r byd newid o ganlyniad i’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r cynadleddau heddwch. Nod y prosiect yw cyflwyno’r newidadau yma o bersbectif Cymreig gan ddefnyddio adnoddau cynradd ac eilaidd o ffynonellau Cymreig a ddatblygwyd mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru.

Mae’r adnoddau’n drawsgwricwlaidd ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, ac yn hollol ddwy-ieithog. Maent yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r cwricwlwm yng Nghymru, ac ar gael trwy Hwb, Gwefan Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Gwefan Casgliad y Werin, Cymru. Mae’r fformatau’n cynnwys iBooks, taflenni gwaith PDF, cynlluniau gwersi, clipiau ffilm, eitemau unigol gyda dehongliad a chyflwyniadau rhyngweithiol NearPod. Rydyn ni’n defnyddio eitemau gwreiddiol o’r cyfnod o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru ac Archif ITV Cymru/Wales sy’n cynnwys ffilm, fideo, hanesion llafar, ffotograffau, papurau newydd, darluniau, mapiau, llythyrau, telegramau a deunydd archifol.

Ariennir y prosiect drwy Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru. Gellir llwytho’r set gyntaf o adnoddau o wefan Gwasanaethau Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a dilyn y prosiect RhB1 Addysg ar Twitter

Cymru yn y Rhyfel: Addysg ac Estyn Allan o Gwmpas Cofgolofnau Rhyfel Cymru

Adnodd cynhwysol i blant ysgol dros Gymru yw Cymru yn y Rhyfel, sy’n eu galluogi i ddatblygu bywgraffiadau o’r enwau ar eu cofgolofnau rhyfel lleol ac i ddysgu mwy am effaith y rhyfel ar Gymru. Nod y prosiect yw i geisio darganfod mwy am fywydau’r dynion a’r menywod o Gymru aeth i ryfel, gyda ffocws arbennig ar y rheini sy’n cael eu cofio ar gofgolofnau Cymru. Mae gwefan ac app Cymru yn y Rhyfel hefyd yn cynnwys llinell amser o brif ddigwyddiadau’r rhyfel a gwybodaeth cyfeiriol ar wahanol theatrau’r rhyfel, oll gyda blas Cymreig penodol. 
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, y Llynges Frenhinol ac ysgolion yng Nghymru.  Ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru a Chyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog. Gellir ymweld â gwefan Cymru yn y Rhyfel neu lawrlwytho’r app yn rhad ac am ddim o’r App Store neu Google Play. Wales at War ar Trydar

Cymru dros Heddwch

Mae'r Llyfrgell yn bartner ym mhrosiect Cymru dros Heddwch sy'n  canolbwyntio ar sut mae Cymru wedi cyfrannu at heddwch yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect, bydd y Llyfrgell yn digido Llyfr Coffa  Cymru ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn datblygu teclyn trawysgrifio er mwyn casglu’r holl wybodaeth a gofnodir o fewn y Llyfr. Ariennir y prosiect gan Cronfa Treftadaeth y Loteri. Cymru Dros Heddwch ar Trydar