Symud i'r prif gynnwys

Yn sefyll uwchlaw Bae Ceredigion, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn drysorfa o gasgliadau, straeon a hanes. O’r Ystafelloedd Darllen i’r arddangosfeydd, o’r caffi i'r siop, dewch am y diwrnod i ddarganfod nid yn unig stori Cymru ond eich stori chi.


Oriau agor

Oriau agor cyffredinol yr adeilad

  • Dydd Llun – Dydd Gwener: 09:00 - 18:00
  • Dydd Sadwrn: 09:30 – 17:00

Amserau agor manwl a newidiadau


Sut i Gyrraedd

  • Mae gennym faes parcio pwrpasol. 

  • Mae gorsaf dren yn Aberystwyth, a ceir gorsaf fws a thacsi gerllaw iddo

  • Gellir cerdded o’r dref i'r Llyfrgell, ond mae’n cynnwys dringfa serth i fyny Allt Penglais ac yn cymryd oddeutu 20 munud

Manylion pellach am gyrraedd LlGC


Defnyddio’r Ystafell Ddarllen

Gall unrhyw un dros 16 oed gofrestru fel darllenydd er mwyn defnyddio’n Hystafell Ddarllen.

  • Mae angen dangos 2 brawf adnabod (un yn nodi cyfeiriad cyfredol) i gael tocyn darllen llawn

Gallwch archebu eitemau o’r casgliadau i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen ar y Prif Gatalog ac Archifau a Llawysgrifau LlGC yn unig.

Cofrestru a defnyddio’r Ystafell Ddarllen

Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Rydym yn cynnal rhaglen o arddangosfeydd a digwyddiadau cyffrous yn seiliedig ar ein casgliadau.

Dewch i ddarganfod stori Cymru trwy lygaid ein casgliadau. Bydd ein harbenigwyr yn eich tywys ar daith trwy amrediad ein casgliadau, gan roi llais i'r gorffennol. O’r gweithiau celf enwog, i ddyddiaduron y perchnogion tir, o’r ffilmiau modern i'r ffotograffau cynnar, yn y Llyfrgell daw ein hanes yn fyw.

Rhaglen Arddangosfeydd

Rhaglen Ddigwyddiadau


Cyfleusterau ac hygyrchedd

Hygyrchedd

Mae'n bwysig iawn i ni fod ymweliad pawb â’r Llyfrgell mor bleserus â phosib.

  • Mae’r brif fynedfa ar y llawr gwaelod ac yn hollol hygyrch

  • Mae 2 lifft ar gael i chi eu defnyddio i gyrraedd bob ardal gyhoeddus

  • Gellir benthyg cadair olwyn ar gyfer eich ymweliad

  • Ceir toiledau mynediad arbennig ar y llawr gwaelod a’r prif lawr

  • Mae amrywiaeth o gyfarpar pwrpasol yn yr Ystafell Ddarllen er mwyn eich cynorthwyo gyda’ch hymchwil

Mwy o wybodaeth am hygyrchedd adeilad y Llyfrgell


Toiledau a loceri

Mae loceri ar gael (bydd angen darn £1 arnoch) i storio'ch cotiau a bagiau tra eich bod yn ymweld â'r Llyfrgell. Nodwch os gwelwch yn dda nad oes modd mynd â chotiau a bagiau i'r Ystafell Ddarllen, bydd angen eu stori mewn locer.

Siop

Mae ein siop wedi ei lleoli ar y llawr gwaelod ger y dderbynfa. Mae’n cynnig amrywiaeth o nwyddau yn seiliedig ar ein casgliadau, llyfrau ac anrhegion chwaethus. Mae’r Llyfrgell yn elusen, felly mae pob eitem y prynir yn ein siop yn ein cefnogi ni.

Caffi Pen Dinas

Mae caffi Pen Dinas hefyd wedi ei leoli ar y llawr gwaelod ger y dderbynfa. Mae’n cynnig amrywiaeth o brydau a phaneidiau mewn lleoliad cyfforddus. Ceir cyfuniad o gadeiriau â byrddau, a chadeiriau esmwyth â golygfa odidog dros Fae Ceredigion.


Ymweld gyda phlant

Mae’r Llyfrgell yn lle gwych i ymweld gyda phlant.

  • Mae Ardal Chwarae benodol ar gyfer plant 3 - 7 oed

  • Mae cyfleusterau newid babi ar gael

  • Mae mynediad a defnydd o gaffi Pen Dinas gyda phram yn hawdd

Mwy am ymweld gyda phlant