Symud i'r prif gynnwys

Ganed Leslie Gilbert Illingworth yn Y Barri ym 1902. Mynychodd Goleg Arlunio Caerdydd cyn cael swydd gyda'r Western Mail. Cafodd ysgoloriaeth wedyn i Goleg Arlunio y Slade, ac ar ôl cwblhau'r cwrs dychwelodd i'r Western Mail fel cartwnydd. Ymunodd â'r Daily Mail ym 1939, gan lunio cartwnau a gododd ysbryd Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sylwai'n bennaf ar arweinyddiaeth Churchill a buddugoliaethau milwrol y Cynghreiriaid. Yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, canolbwyntiodd ar faterion cartref, ond gan gadw llygaid barcud yr un pryd ar ddigwyddiadau tramor o bwys i Brydain.

Daeth yn brif gartwnydd gwleidyddol y cylchgrawn Punch yn 1945, ond gan barhau i weithio i'r Daily Mail tan ei ymddeoliad ym 1969. Bu farw ym 1979. Gellir cael mwy o wybodaeth am Leslie Illingworth ar wefan Spartacus Schoolnet.

Casgliad Illingworth

Mae'r 4563 o gartwnau yng nghasgliad Illingworth yn y Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi golwg inni ar amrywiaeth eang o bynciau trwy lygaid un o gartwnwyr mwyaf adnabyddus Prydain yr ugeinfed ganrif.

Mae'r gweithiau cynharaf yn y casgliad yn canolbwyntio ar yr Ail Ryfel Byd, a'i frwydrau, ac ar ymdrechion y llywodraeth gartref i gynnal bywyd o ddydd i ddydd. Manteisia ar bob cyfle i wneud hwyl ar ben Hitler, Mussolini a'u cyngheiriaid hwythau. Ceir cyfeiriadau mynych hefyd at Stalin, Roosevelt, Montgomery, a Hideki Tojo. Mae'r cartwnau o'r cyfnod yn caniatáu inni ddilyn digwyddiadau'r rhyfel wrth i hwnnw fynd yn ei flaen.

Wedi'r rhyfel troes Illingworth ei sylw yn fwy ar faterion Prydeinig, gan ganolbwyntio ei sylw miniog ar y llywodraeth Lafur a oedd newydd gael ei hethol. Ceir cyfeiriadau aml at sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, datblygiadau yn Ewrop wedi'r rhyfel, a thrafferthion bywyd bob dydd mewn cyfnod o brinder affwysol.

Erbyn y pumdegau yr oedd pethau wedi newid: yr oedd Churchill yn Brif Weinidog unwaith eto, Nikita Khrushchev yn arweinydd yr Undeb Sofietaidd a Dwight D Eisenhower yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Cyfeiria at drafferthion Ffrainc, Algeria a Cyprus, ac at argyfwng Suez a'r economi. Ymddengys Macmillan yn gyson yn y cartwnau drwy'r pumdegau, ond fe'i disodlir gan Harold Wilson fel cocyn hitio y chwedegau cynnar.

Rhoddir sylw amlwg hefyd yn y casgliad i gyfnod Kennedy yn Arlywydd, ac i'r ras am y gofod.

Chwiliwch y cartwnau ar y catalog e-Adnoddau

Gwnaethpwyd y prosiect digido mewn partneriaeth â'r Centre for the Study of Cartoons and Caricature, ym Mhrifysgol Kent, Caergaint. Sefydlwyd y ganolfan yn 1973 i gasglu a chadw cartwnau yn gwneud sylwadau ar wleidyddiaeth a chymdeithas, ac er mwyn sicrhau eu bod ar gael i'w hastudio.

ON. Cyflwyna Llyfrgell Genedlaethol Cymru y dogfennau hyn fel rhan o gofnod y gorffennol. Adlewyrcha'r dogfennau hanesyddol hyn agweddau a chredau oesoedd gwahanol. Nid yw'r Llyfrgell yn cefnogi'r agweddau a fynegwyd yn y casgliad, sy'n cynnwys deunydd a all fod yn annymunol i rai darllenwyr.