Symud i'r prif gynnwys

Fe ddaeth y cartŵn yn gyfrwng adnabyddus tua chanol y ddeunawfed ganrif, er mwyn cyflwyno digwyddiadau o bwys i bobl anllythrennog mewn ffordd y gallent ei ddeall. Yr oedd dynion fel Thomas Rowlandson a James Gillray yn arloeswyr yn y maes ym Mhrydain a cyhoeddwyd Punch, cylchgrawn byd eang gyda chartwnau, am y tro cyntaf ym 1841. Tua'r un adeg datblygwyd y symbolau sy'n cynrychioli Prydain, sef John Bull, Britannia, a'r llew, ac Uncle Sam i gynrychioli America.

Daeth cartwnau gwleidyddol yn fwy pwysig yn yr Ail Ryfel Byd fel ffordd o godi ysbryd y wlad, ac ar ôl y rhyfel daeth yn rhan angenrheidiol o bob papur newydd difrifol. Maent yn gyfrwng sy'n dibynnu yn llwyr ar farn bersonol y cartwnydd, felly ni ellir dibynnu arnynt fel ffeithiau hanesyddol. Maent yn werthfawr i ddangos barn rhan o'r boblogaeth ar ddigwyddiadau cyfoes.