Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Erbyn hyn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gallu cynnig gwasanaethau cadwraeth a digido proffesiynol i unigolion a sefydliadau yng Nghymru a ledled y DU.
Gan amrywio o brosiectau ar raddfa fawr sy’n cynnwys cannoedd o filoedd o dudalennau i gasgliadau bychain o eitemau bregus a sensitif, mae ein staff arbenigol yn cyfuno sgiliau traddodiadol â thechnoleg o’r radd flaenaf i warchod, amddiffyn a digido ystod eang o ddeunydd etifeddiaeth a diwylliannol.
Am fwy o fanylion ynglŷn â’r gwasanaethau hyn, neu i drafod eich gofynion penodol, cysylltwch â’r tim ymholiadau neu ewch i’r dudalen ymholiadau.