Symud i'r prif gynnwys

Chwilio

Beth yw chwiliad pori?

Mae'r chwiliad pori yn dychwelyd canlyniadau yn nhrefn yr wyddor. Mae'r math yma o chwilio yn ddefnyddiol pan rydych yn gwybod teitl neu ran o deitl, neu i ddarganfod yr holl weithiau sy'n gysylltiedig ag awdur neu bwnc arbennig. Gallwch symud yn ôl ac ymlaen drwy’r rhestr ar y dudalen ganlyniadau er mwyn dod o hyd i'r pennawd perthnasol.

Sut mae'r Chwiliad Manwl wedi gwella? (Ionawr 2017)

Mae'r Chwiliad Manwl yn fwy pwerus gan fod modd chwilio o fewn y Casgliad Ystadau yn unig (gweler Sut gallaf gyfyngu fy chwiliad i Gofnodion Ystadau yn unig?).

Gallwch hefyd gyfyngu eich chwiliad i ddyddiadau arbennig.

Sut mae defnyddio nodchwilwyr (wild cards) a thalfyriadau wrth chwilio?

Defynddir nodchwilwyr yn lle llythrennau coll. Maent yn ddefnyddiol wrth chwilio am sillafiadau gwahanol.

  • Defnyddiwch ? i nodi sawl llythyren sydd ar goll; defnyddiwch un ? ar gyfer pob llythyren coll, er enghraifft: Bydd tr?n yn canfod trên ond nid troeon
  • Defnyddiwch * i gynrychioli nifer amhenodol o llythrennau coll, er enghraifft: Bydd tr*n yn dod o hyd i trên neu troeon ayb.
  • Gallwch ddefnyddio talfyriadau ar ddechrau neu ar ddiwedd geiriau, er enghraifft: Bydd llyf* yn dod o hyd i llyfrgell, llyfrgellydd, ayb. Dim ond llyfr a ddychwelir wrth ddefnyddio llyf? Daw *oes o hyd i coes, croes, Tre-groes, ayb.

Beth yw'r gorchmynion Boolean?

Gorchmynion sy'n eich galluogi i gyfuno termau chwilio er mwyn ehangu neu gyfyngu'ch chwiliad yw'r rhain. Mae'r termau a gefnogir yn 'Archifau a Llawysgrifau LlGC' yn cynnwys A, NEU, NID ac AGOS.

  • Bydd A yn cyfuno dau neu fwy o allweddeiriau, gan gyfyngu'ch chwiliad, er enghraifft:
    Bydd Hanes A Cymru yn dychwelyd canlyniadau sy'n cynnwys y ddau derm chwilio, e.e. Hanes Cymru
  • Bydd NEU yn dychwelyd canlyniadau gyda'r naill derm chwilio neu'r llall yn y teitl, gan ehangu'ch chwiliad, er enghraifft:
    Bydd Hanes NEU Cymru yn dychwelyd canlyniadau gan gynwys Hanes Cymru a Hanes Plwyf Ffestiniog
  • Bydd NID yn hepgor term o'ch chwiliad, gan ei wneud yn fwy penodol, er enghraifft:
    Bydd Davies, John NID Hanes Cymru yn dychwelyd rhestr o weithiau gan John Davies heblaw am Hanes Cymru.

Rwyf wedi canfod y casgliad archifol rwyf ei angen, ond sut gallaf chwilio o fewn y casgliad hwnnw yn unig?

Unwaith eich bod wedi agor y casgliad sydd angen arnoch yn Archifau a Llawysgrifau LlGC, fe welwch y goeden archifol ar dop y dudalen. Mae'r goeden archifol yn rhestri pob cofnod yn y casgliad. Ar ochr chwith y dudalen fe welwch flwch 'Chwiliad cyflym'. Teipiwch eich term chwilio yn y blwch, a cliciwch ar yr eicon chwyddwydr sydd ar ei bwys, ac mi welwch yr holl ganlyniadau perthnasol yn ymddangos o dan y blwch chwilio. Dewisiwch gofnod, ac mi fydd y disgrifiad yn y agor yn y brif golofn.

Sut mae chwilio am bapurau ystâd?

  1.  Chwiliwch am gasgliad papurau ystâd arbennig o dudalen flaen Archifau a Llawysgrifau LlGC, yna dewisiwch y casgliad papurau ystâd yn y canlyniadau. Yna gallwch ddefneyddio'r blwch 'Chwiliad cyflym' ar y chwith (o dan delwedd y Llyfrgell). Bydd hyn yn eich galluogi i chwilio am allweddair arbennig o fewn y casgliad papurau ystâd penodol hwnnw. Bydd y canlyniadau perthnasol ar gyfer eich chwiliad yn ymddangos o dan y blwch chwilio (nid yn y canlyniadau chwilio gwreiddiol). Clicwch ar y canlyniad sydd o ddiddordeb, a bydd y disgrifiad yn agor yn y golofn dde.
  2. Yn dilyn adborth, rydym wedi datblygu rhestr A-Z o 50 o'r casgliadau papurau ystâd mwyaf/mwyaf poblogaidd sydd yn y Llyfrgell. Gallwch glicio ar enw ystâd yn y rhestr ac fe ddargyfeirir chi i gofnod lefel uchel y casgliad hwnnw yn Archifau a Llawysgrifau LlGC. I chwilio o fewn y casgliad hwnnw, gellir defnyddio'r label 'Chwiliad cyflym' yn y golofn chwith. Gobeithir y bydd hyn yn cynnig mynediad cyflym at ddetholiad o gasgliadau papurau ystâd.

Rwy’n gwybod bod eitem yn y Llyfrgell ond ni allaf ddod o hyd iddo. Beth allaf wneud?

Os ydych yn gwybod fod eitem yn y Llyfrgell, ond yn methu dod o hyd iddo yn y Catalog, gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais di-gatalog.

Canlyniadau chwilio

Sut gallaf gadw nodyn o gofnodion o ddiddordeb?

Gallwch gadw nodyn o gofnodion o ddiddordeb gyda'r ffwythiant Clipfwrdd newydd, OND, mae'r ffwythiant hwn yn ddibynnol ar sesiwn, felly mi fydd y cofnodio yn diflannu wrth i chi gau Archifau a Llawysgrifau LlGC. Gallwch ddefnyddio'r Clipfwrdd heb fewngofnodi.

I gadw cofnodion

Yn y golofn dde mi welwch deitl o'r enw' Clipboard', cliciwch ar y gair 'Ychwanegu' (i'r dde o'r eicon o glip-papur)

I weld eich Clipfwrdd

Cliciwch ar yr eicon o glip-papur fydd yn ymddangos yn y gornel dde ar frig y dudalen wedi i chi gadw eich cofnod cyntaf. Mi fydd yn arddangos nifer yr eitemau rydych wedi eu cadw mewn cylch glas. Bydd dewislen yn agor, a gallwch glicio ar 'Go to Clipboard' i weld y rhestr o'r cofnodion rydych wedi eu cadw.

I agor cofnod wedi ei gadw, cliciwch ar deitl y cofnod.

I safio eich clipfwrdd am 7 diwrnod

Cliciwch ar yr eicon o glip papur yn y gornel dde uchaf, a dewis 'Cadw'r clipfwrdd'. Fe welwch wedyn eich tudalen clipfwrdd. Mae hon yn cynnwys neges ar frig y dudalen sy'n cynnwys id unigol ar gyfer eich clipfwrdd. Gwnewch nodyn o'r rhif hwn er mwyn cael mynediad i'ch clipfwrdd cadw yn y dyfodol.

I ailgreu clipfwrdd wedi ei gadw

Cliciwch ar yr eicon o glip papur yn y gornel dde uchaf, a dewis 'Llwytho'r clipfwrdd'. Nodwch rif id eich clipfwrdd (dyma'r rhif y byddech wedi ei nodi wrth safio eich clipfwrdd).

O dan yr adran 'Gweithred' mae gennych ddau opsiwn: 

  • Asio clipfwrdd a gadwyd â chanlyniadau clipfwrdd presennol: uno canlyniadau eich clipfwrdd presennol gyda chanlyniadau eich clipfwrdd wedi ei safio i greu un clipfwrdd cyfansawdd
  • Amnewid y canlyniadau clipfwrdd presennol gyda'r clipfwrdd a gadwyd: bydd eich clipfwrdd a gadwyd yn disodli eich clipfwrdd presennol. O ddewis hwn, byddwch yn colli unrhyw ganlyniadau a safiwyd fel rhan o'r clipfwrdd presennol

Unwaith eich bod wedi dewis eich 'Gweithred', cliciwch ar 'Llwytho' ar waelod y ffurflen i weld eich clipfwrdd.

*Noder os gwelwch yn dda fod y catalog dim ond yn dangos un math o endyd ar y tro, ac mae'n dangos disgrifiadau archifol yn ddiofyn. I weld eitemau gwahanol gallwch ddewis o'r gwymplen sy'n dweud disgrifiadau archifol yn y gornel dde uwchben eich canlyniadau.

I ddileu cofnod o'r Clipfwrdd

Cliciwch ar y sgwar glas gydag eicon clip-papur i'r dde o'r cofnod. Y tro nesaf yr ewch chi i'r Clipfwrdd, bydd y cofnod wedi diflannu. Os fyddwch chi'n newid eich meddwl wedi dileu cofnod, gallwch ei gadw eto trwy glicio ar y clip-papur cyn gadael y Clipfwrdd.

Argraffu copi o'r Clipfwrdd

Gallwch argraffu copi o'r cofnodion sydd ar eich Clipfwrdd. I wneud hyn, bydd angen i chi fewngofnodi gyda'ch cyfrif Tocyn Darllen, ac yna clicio ar yr opsiwn 'Rhagolwg Argraffu' ar frig y rhestr. Bydd hyn yn agor rhagolwg o sut fydd y rhestr yn ymddangos, ac yna gallwch ddewis argraffu o'ch porwr.

Lawrlwytho copi .csv o'r Clipfwrdd

Os oes yn well gennych, gallwch lawrlwytho ffeil .csv o'r rhestr (eto bydd rhaid i chi fewngofnodi gyda'ch cyfrif Tocyn Darllen gyntaf), trwy glicio ar 'Export CSV' ar frig eich rhestr. Cliciwch ar y ddolen 'Job management' yn y frawddeg ar frig y rhestr. Bydd tabl yn ymddangos, fydd yn caniatau i chi glicio ar 'Lawrlwytho' ar ochr dde'r tabl. Bydd hyn y lawrlwytho ffeil .csv i chi. Gallwch ddileu'r rhestr wedi i chi lawrlwytho'r ffeil trwy glicio ar y botwm coch 'Clear inactive jobs' o dan y tabl.

Sut mae gwella fy nghanlyniadau chwilio?

Defnyddiwch ddyfynnodau dwbl, e.e. "B3/3/3" yn hytrach na B3/3/3

Mae chwilio heb ddyfynnodau dwbl yn gallu bod yn llawer llai effeithiol, yn arbennig os ydy’r chwiliad yn cynnwys symbolau and ydynt yn llythrennau nac yn rhifau (e.e. / ).

Wrth edrych ar gofnod yn Archifau a Llawysgrifau LlGC beth yw'r rhestr blygadwy ar dop y dudalen?

Y rhestr blygadwy yw'r goeden archifol. Mae'r goeden hon yn dangos yr holl wahanol eitemau o fewn casgliad arbennig, a sut maent yn perthyn i'w gilydd. O fewn casgliad fel Papurau Ystâd Badminton ceir nifer fawr o eitemau unigol. Mae'n bosib eich bod wedi agor cofnod sydd yn eistedd yng nghanol y casgliad, a'r goeden archifol sy'n caniatau i chi weld beth sy'n dod cyn ac ar ôl y cofnod hwnnw, a sut y mae'n perthyn i weddill y casgliad.

Sut mae defnyddio'r goeden archifol yn Archifau a Llawysgrifau LlGC?

Gwelir y goeden archifol ar dop y dudalen wedi i chi agor cofnod yn Archifau a Llawysgrifau LlGC. Mae'r goeden yn edrych fel rhestr blygadwy. Rhestr ydyw o'r holl eitemau o fewn casgliad benodol. Er enghraifft mae gan gasgliad fel Papurau Ystâd Badminton nifer o eitemau unigol. Mae'n bosib eich bod wedi agor cofnod yng nghanol casgliad, a'r goden archifol sy'n caiatau i chi weld y cofnodion cyn ac ar ei ôl, a sut mae'n perthyn i weddill y casgliad.

Bydd y cofnod rydych wedi ei agor yn ymddangos wedi ei aroleuo'n las. I agor cofnod arall, neu gangen arall o'r goeden, cliciwch ar ei deitl.

Wedi i chi ddewis cofnod, bydd y disgrifiad yn agor yn y golofn dde.

Pethau y gellid eu gwneud ar ISYS

Sut mae gweld pob disgrifiad o fewn i gasgliad gyda'i gilydd?

Gellir lawrlwytho pdf o bob disgrifiad o fewn i gasgliad. Bydd hyn yn darparu rhestr tebyg i beth roedd Catalog ISYS yn ei gynnig.

I lawrlwytho pdf, cliciwch ar 'Lawrlwytho' o dan y teitl 'Cymorth Chwilio' yn y gofon dde.

Canllawiau:

  • Noder o gwelwch yn dda, mai dim ond o lefel uchaf y casgliad y gellir cynhyrchu pdf (i fynd i lefel uchaf y casgliad cliciwch ar y cofnod ar frig y goeden archifol yn y golofn chwith)
  • Os yw'r ddolen 'Cymorth Chwilio' yn dweud 'Cynhyrchu' yn lle 'Lawrlwytho' mae'r odf yn cael ei greu. Dewch yn ôl i'r cofnod yn hwyrach ac mi ddylai'r ddolen ddarllen 'Lawrlwytho' erbyn hynny.

Mi welwch wybodaeth ynghylch y casgliad ar ddechrau'r pdf (yn cynnwys dolen i fynd yn ôl i'r casgliad ar Archifau a Llawysgrifau LlGC), yn dilyn hyn bydd disgrifiadau ar gyfer bob cofnod o fewn y casgliad.

Fy nghyfrif

Sut gallaf fewngofnodi?

I fewngofnodi cliciwch ar y botwm 'Mewngofnodi' yn y gornel dde ar frig y sgrin. Rhaid mewngofnodi er mwyn archebu deunydd i'w gweld yn yr Ystafell Ddarllen.

Gallwch ymuno â'r Llyfrgell trwy gofrestru arlein.