Symud i'r prif gynnwys

Mae gwasanaeth Digido ar Gais, a ddarperir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gorfod cadw at gyfraith hawlfraint.  Mae’r dudalen hon yn grynodeb byr o rai termau’n ymwneud â hawlfraint y gallech ddod ar eu traws ar ôl gosod archeb Digido ar Gais.  Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gwasanaeth Ymholiadau LlGC.

Eitemau sydd o dan hawlfraint

Mae’r rhan fwyaf o weithiau’n cael eu gwarchod yn awtomatig gan gyfraith hawlfraint ar ôl iddynt gael eu creu.  Mae canfod a yw hawlfraint yn berthnasol ai peidio i’r deunydd yr ydych chi wedi gwneud cais amdano yn dibynnu ar y math o waith ydyw, pa bryd y cafodd ei greu  ac a gafodd/pryd y cafodd ei gyhoeddi, ymhlith pethau eraill.  Fel rheol, gall eitemau o dan hawlfraint gael eu copïo a’u defnyddio gyda chaniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint. 

Oni bai bod eithriad yn berthnasol (gweler ‘Eithriadau hawlfraint’), bydd angen i chi ddangos i’r Llyfrgell bod deiliad yr hawlfraint wedi rhoi caniatâd i’r gwaith gael ei gopïo a’i ddefnyddio gennych.

Am ragor o wybodaeth am hawlfraint, ewch i wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol yma.

Eithriadau hawlfraint

Mae yna rai eithriadau hawlfraint sy’n caniatáu defnydd arbennig o weithiau heb ganiatâd penodol gan ddeiliad yr hawlfraint.

O dan yr eithriadau hyn, efallai bydd y Llyfrgell yn darparu copïau o weithiau o’r casgliadau ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil at ddiben anfasnachol.  Gall y copïau hyn gael eu darparu dan delerau ac amodau arbennig ac fe fydd gofyn i chi, fel yr un sy’n gwneud cais am y copi, wneud datganiad y byddwch chi’n cadw at y telerau a’r amodau hynny.

Am ragor o wybodaeth am eithriadau hawlfraint, ewch i wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol yma.

Chwilio am ddeiliaid hawlfraint

Mae ansicrwydd ynghylch statws hawlfraint llawer o weithiau yng nghasgliadau’r Llyfrgell; gellid bod yn ansicr a yw gwaith o dan hawlfraint ai peidio neu gall deiliad yr hawlfraint fod yn anhysbys.  Os crëwyd gwaith cyhoeddedig o fewn y 130 mlynedd ddiwethaf, mae’n bosib ei fod o dan hawlfraint o hyd.

Gellir darparu copïau o’r gweithiau hyn o dan yr eithriadau hawlfraint, ond bydd angen i chi ymrwymo i wneud chwiliad trylwyr am ddeiliad yr hawlfraint os ydych chi eisiau defnyddio’r gwaith at ddibenion na chaniateir dan eithriad.

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol wedi cyhoeddi canllawiau chwilio trylwyr a byddai’n fan cychwyn addas i’ch chwiliad chi. 

Eitemau yn y Parth Cyhoeddus

Disgrifir eitemau sydd allan o hawlfraint fel gweithiau ‘parth cyhoeddus’.  Bydd yr eitemau hyn ar gael i’w copïo yn eu cyfanrwydd heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint.