Symud i'r prif gynnwys

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gorff pwysig yn nhraddodiad llenyddol Cymru ac mae cyfansoddiadau a beirniadaethau Eisteddfodol o 1886 ymlaen yn y Llyfrgell.

Mae gennym bapurau Cyngor Celfyddydau Cymru er ei sefydlu yn 1967 sy’n cynnwys casgliad pwysig o archifau llenorion Cymreig. 

Mae archif enfawr BBC Cymru yn cynnwys sgriptiau dramâu megis sgript gyntaf ‘Pobl y Cwm’, a sgyrsiau gan awduron amlwg o 1932 ymlaen.

Ceir hefyd archifau nifer o gyhoeddwyr a chylchgronau llenyddol.

Rhestr ddethol A-Z

Dyma rai o'r awduron amlycaf yn ein casgliadau, ond nid yw popeth yn y rhestr hon a dylid chwilio’r catalogau am fanylion pellach. Gellir cael mynediad i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio Prif Gatalog y Llyfrgell.

  • Anglo-Welsh Review
  • Sgriptiau BBC Cymru / Wales Scripts
  • Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
  • Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru      
  • Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
  • Cyngor Celfyddydau Cymru / Welsh Arts Council 
  • Cwmni Theatr Hwyl a Fflag
  • Dock Leaves
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Cofnodion y Swyddfa Ganolog
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a Beirniadaethau
  • Gwasg Gee
  • Gwasg Gregynog
  • Hughes a'i Fab, Wrecsam
  • Made in Wales Stage Company
  • Planet
  • Poetry Wales
  • Theatr Garthewin
  • Wales (Keidrych Rhys)
  • Y Faner
  • Y Gymdeithas Gerdd Dafod a Barddas
  • Y Llenor
  • Yr Academi Gymreig / Welsh Academy