Datganiad Casglu
Yn unol â Pholisi Datblygu Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r Archif Gerddorol Gymreig yn casglu
- papurau personol cerddorion sydd wedi, ac yn parhau i chwarae rhan bwysig ym mywyd y genedl, ac unigolion o Gymru sydd â phroffil uchel oherwydd eu gwaith cerddorol yn genedlaethol neu’n rhyngwladol. Yn eu mysg mae cyfansoddwyr, perfformwyr, hyrwyddwyr, ac ysgolheigion sy’n astudio traddodiadau cerddorol Cymru
- archifau cyrff cenedlaethol sy’n trefnu a hyrwyddo perfformiadau cerddorol, cymdeithasau cenedlaethol sy’n hyrwyddo neu astudio agweddau o gerddoriaeth Cymru, neu grwpiau sy’n perfformio cerddoriaeth Gymreig neu yng Nghymru
- archifau cyhoeddwyr masnachol cerddoriaeth Cymru, gan gynnwys cwmnïau recordio
- llawysgrifau cerddorol Cymreig o bob cyfnod, ynghyd â rhaglenni cyngherddau ac effemera sy’n adlewyrchu gweithgaredd cerddorol ym mhob rhan o Gymru.