Symud i'r prif gynnwys

Archifau cynhwysfawr

Mae casgliad Kate Roberts yn enghraifft dda o archifau cynhwysfawr. Yn dilyn ei marwolaeth yn 1985 trosglwyddwyd y casgliad i’r Llyfrgell. Yn ogystal â drafftiau o’i gweithiau ceir dros 2000 o lythyrau a anfonwyd ati, ynghyd ag eitemau personol sy’n gysylltiedig â’i theulu, e.e. llyfr poced ei brawd, Dei, pan yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ymhlith yr awduron a gynrychiolir gan gasgliadau cynhwysfawr o’r fath, y mae:

  • Aneirin Talfan Davies
  • Carneddog
  • W J Gruffydd
  • Gwenallt
  • T Gwyn Jones
  • R Williams Parry
  • T H Parry-Williams
  • Iorwerth C Peate
  • Caradog Prichard
  • D J Williams (Abergwaun) 
  • Eifion Wyn

Llawysgrifau unigol

Ymhlith awduron sydd â chasgliadau llai eang eu rhychwant, yn rhannol am nad oedd yr awduron wedi dewis cadw eu papurau i gyd, y mae:

  • Euros Bowen
  • E Tegla Davies
  • Dewi Emrys
  • Saunders Lewis
  • Winnie Parry
  • Islwyn Williams
  • Waldo Williams
  • Nantlais

Awduron cyfoes

Y gobaith yw medru denu nifer o awduron cyfoes i gyflwyno eu papurau i’r Llyfrgell. Eisoes cafwyd cnewyllyn da o ddrafftiau nofelau diweddar yr 20fed ganrif drwy roddion hael gan awduron fel Marion Eames a Jane Edwards.

Eisteddfodau

Cadwyd casgliadau nifer o Archdderwyddon Cymru’r 20fed ganrif, gan gynnwys rhai:

  • Brinli
  • Crwys
  • Dyfed
  • Dyfnallt
  • Trefin
  • Wil Ifan
  • R Bryn Williams

Ceir casgliad eang o gyfansoddiadau anfuddugol eisteddfodau cenedlaethol y ganrif, ynghyd â ffeiliau gweinyddol yr Eisteddfod o ganol y ganrif ymlaen.

Newyddiadurwyr

Carfan arall sydd wedi ei chynrychioli ymhlith ein daliadau yw archifau newyddiadurwyr, rhai fel E Morgan Humphreys, Meuryn ac E Prosser Rhys.

Cyngor Celfyddydau Cymru

Ceir cyfres faith o ffeiliau Cyngor Celfyddydau Cymru o’i sefydlu, gan gynnwys rhai’n ymwneud â’r Adran Lenyddiaeth. Yn ogystal â chofnodion gweinyddol Adran Gymraeg yr Academi Gymreig, fe gafwyd archifau’r cylchgrawn Taliesin, y ffeiliau a gasglwyd wrth lunio’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986), a’r arddangosfeydd a’r defnyddiau a gasglwyd gan Brosiect Ymchwil yr Academi yn ystod hanner olaf yr 80au.

Cylchgronau a chyhoeddwyr

Mae yma archifau cylchgronau allweddol eraill e.e. Y Llenor a Barn. Mae yn y Llyfrgell hefyd gasgliadau o archifau gweisg, megis Gwasg Gee a Hughes a’i Fab, sydd yn cynnig gohebiaeth gefndir i lawer cyfrol.

Sgriptiau'r BBC

Ffynhonnell werthfawr arall yw archif sgriptiau’r BBC yng Nghymru. Mae’n cynnwys casgliad cynhwysfawr o sgriptiau sy’n dyddio o 1932 hyd heddiw. Ceir hefyd ddramâu, rhaglenni nodwedd a sgyrsiau gan awduron blaenllaw, ynghyd â defnyddiau mwy poblogaidd fel sgriptiau’r dramâu sebon ‘Teulu Tŷ Coch’ ar y radio gynt a Pobol y Cwm ar y teledu heddiw.

Yn y cyd-destun hwn hefyd dylid nodi bodolaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru (AGSSC) sydd wedi bod wrthi’n casglu tapiau fideo o gynnyrch gorau S4C oddi ar sefydlu’r sianel yn 1982.

Eitemau diddorol

O blith casgliadau ac eitemau diddorol eraill ym maes llenyddiaeth yr 20fed, y mae:

  • papurau Theatr Garthewin a fu’n gymaint cyfraniad i hanes y ddrama yng Nghymru
  • archifau’r cylchgrawn Barddas a Chymdeithas cerdd dafod Cymru
  • papurau’r digrifwr Idwal Jones
  • llyfrau lloffion D R Davies (Aberdâr) yn ymwneud â byd y ddrama yng Nghymru
  • cerddi T E Nicholas wedi eu hysgrifennu ar bapur toiled carchardai Abertawe a Brixton
  • peth o lenyddiaeth y Wladfa, gan gynnwys eitemau yn llaw Eluned Morgan
  • cyfieithiadau o ddramâu mawr Rwsia gan T Hudson-Williams 
  • archifau awduron plant, megis Jennie Thomas, D J Williams (Llanbedr) a J O Williams

Beirniadaeth lenyddol ac ysgolheigion

Beirniadaeth lenyddol ac ysgolheigion

O ehangu’r maes i gynnwys beirniadaeth lenyddol ac ysgrifennu ysgolheigaidd, gellid crybwyll casgliadau:

  • J H Davies
  • Idris Foster
  • J R Jones (Abertawe)
  • Henry Lewis
  • Timothy Lewis
  • Ffransis Payne
  • Alwyn D Rees
  • John Rhys
  • Griffith John Williams

Mae rhai o’r casgliadau hyn yn gyfoethog iawn o ran gohebiaeth.  Ceir llawer iawn o ohebiaeth hefyd yng nghasgliadau rhai fel:

  • O M Edwards
  • J W Jones
  • D Rhys Philips
  • Lewis Valentine ac eraill