Symud i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae printiau topograffig a thirlun Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn adlewyrchu diddordeb y Llyfrgell mewn deunydd Cymreig. Mae'r casgliad yn cynnwys enghreifftiau nodweddiadol o olygfeydd yng Nghymru, o drefi, cestyll, adeiladau eglwysig, maenordai, cofgolofnau i adeiladau arloesol fel y bont dros Afon Menai yn Ynys Môn, neu ym Mhontypridd.

Fel arfer mae'r term topograffig yn cyfeirio at ddarlunio golygfa tirlun mewn modd cywir, cynrychiadol. Roedd gan hynafiaethwyr ddiddordeb arbennig mewn printiau topograffig, a weithiau yn gyfrifiol am brintiau o'r fath. Enghreifftiau da o'r math hwn o waith yw'r darluniau a wnaed gan Samuel Grimm ar gyfer Tour of Monmouthshire, Henry Wyndham, 1781.

Yn aml, mae print tirlun yn dangos nodweddion topograffig, ond gallai hefyd fod yn ddehongliad gan yr artist o olygfa nad yw'n ddigon cynrychioliadol neu'n ddigon cywir yn ddaearyddol i'w alw'n "dopograffig".

Enghraifft nodweddiadol fyddai acwatintiau Sawry Gilpin, o Abaty Tyndyrn, allan o Observations on the River Wye, William Gilpin (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Casgliad Darluniau. BV 236a) o luniadau gwreiddiol gan William Gilpin.

Mae'r casgliad yn cynnwys tua 14,000 o brintiau, a gellir dyddio'r mwyafrif rhwng 1750 ac 1850. Roedd y cyfnod hwn yn arwyddocaol am sawl rheswm. Yn gyntaf,  cynyddodd y nifer o arlunwyr oedd yn ymweld â Chymru yn ystod y cyfnod hwn a daethant i gymryd mwy a mwy o ddiddordeb mewn topograffi Cymreig. Yn ail, oherwydd mai dyma'r cyfnod lle gwelwyd twf aruthrol mewn cynhyrchu deunydd printiedig.