Symud i'r prif gynnwys

Eglwys Bedyddwyr 16th Street

O ganlyniad i’w leoliad canolog, roedd y First Colored Baptist Church, Birmingham yn un o brif sefydliadau crefyddol, diwylliannol a chymdeithasol y gymuned ddu, lle y byddai arweinwyr fel Martin Luther King a Paul Robeson yn siarad yn rheolaidd. Datblygodd yn ganolfan naturiol i’r mudiad hawliau sifil lleol, gan gynnig nerth a diogelwch i’r bobl a oedd yn flaenllaw ym mhrotestiadau a ralïau gwrth-wahanu ym Mirmingham, y ddinas fwyaf hiliol yn America. Ar 15 Medi 1963, bythefnos ar ôl araith enwog Martin Luther King 'I Have a Dream', a diwrnod wedi i’r Llywodraethwr George Wallace ddweud bod angen "rhai angladdau o'r radd flaenaf" yn Alabama er mwyn atal integreiddio, plannodd aelodau’r Ku Klux Klan fom yn yr eglwys gan ladd pedair merch ddu ac anafu nifer o bobl eraill, gan ddryllio’r adeilad a malu’r ffenestri gwydr lliw. Cafwyd trais torfol ledled y ddinas ac roedd yn rhaid i’r Gwarchodlu Cenedlaethol adfer y drefn.

Denodd llofruddiaeth ddideimlad y plant diniwed gondemniad, ffieiddiad a chydymdeimlad ledled y byd, a gorfodwyd arweinwyr y ddinas i fynd i’r afael â’r hiliaeth a oedd yno. Cynigiwyd gwobr er mwyn arestio’r bomwyr ac anfonodd Martin Luther King delegram at y  Llywodraethwr George Wallace yn dweud bod "gwaed pedwar plentyn bach ... ar ei ddwylo. Mae eich gweithredoedd anghyfrifol ac annoeth wedi creu ... awyrgylch sydd wedi achosi trais parhaus a llofruddiaeth, erbyn hyn." Daeth enwau a wynebau’r merched yn symbolau o anghyfiawnder, a bu’r ffrwydrad yn drobwynt i Fudiad Hawliau Sifil America.  Cafodd effaith cwbl groes i'r hyn a fwriadwyd, a daeth yn gatalydd i sicrhau pasio Deddf Hawliau Sifil 1964 a Deddf Hawliau Pleidleisio 1965. Cymerodd dipyn mwy o amser i gael cyfiawnder i’r dioddefwyr - er i bedwar unigolyn gael eu hamau ar unwaith, parhaodd yr achos am ddegawdau. Ym mis Mai 2013 llofnododd yr  Arlywydd Obama fil yn dyfarnu Medal Aur y Gyngres i'r pedair merch a lofruddiwyd.

Y ‘Wales window’

Yn ei gartref yn Llansteffan, dros 4,000 o filltiroedd i ffwrdd, cynhyrfodd y newyddion am y drychineb yr artist gwydr lliw John Petts: "torrodd fy nghalon wrth imi wrando ar y newyddion ar y radio ... fel tad ... cefais fy arswydo gan farwolaeth y plant, ac fel artist a chrefftwr, roeddwn yn arswydo o glywed bod ffenestri gwydr lliw yr eglwys wedi eu dinistrio ... Meddyliais wrthyf fi fy hun ... beth allwn ni wneud am hyn"? "Oni allai rhai ohonom ... ymuno gyda'n gilydd fel arwydd o gydymdeimlad Cristnogol cadarnhaol yn wyneb y drygioni dinistriol, i roi o leiaf un o'r ffenestri hynny yn ôl?" Cysylltodd â David Cole, golygydd y Western Mail, a gymerodd at y syniad yn frwdfrydig a’r diwrnod canlynol lansiodd y Western Mail ymgyrch gyda'r pennawd: ‘Alabama: Chance for Wales to Show the Way’. Cytunwyd na allai unigolion roi mwy na hanner coron (12½ p). "Nid ydym am i ryw ddyn cyfoethog ... dalu am y ffenestr. Rydym am iddi gael ei rhoi gan bobl Cymru."

Cydiodd yr apêl yn nychymyg y Cymry, a llifodd yr arian i mewn oddi wrth eglwysi, capeli a phlant ysgol. Roedd gan Gymru draddodiad Ysgol Sul cryf, a siglwyd y genedl wrth feddwl am ferched ifanc yn cael eu lladd wrth fynychu cysegrfan. Roedd cefnogaeth Paul Robeson i lowyr di-waith Cymru wedi ei wneud yn arwr poblogaidd yng Nghymru ac wedi arwain nifer o bobl i gydymdeimlo â sefyllfa’r Americanwyr du, ac roedd hefyd poblogaeth ddu hir-sefydlog yng Nghaerdydd. Cyrhaeddwyd y targed o £500 o fewn dyddiau a chaewyd y gronfa gyda chyfanswm o £900.

Anfonwyd telegram at y Parch John Cross: 'Mae pobl Cymru yn cynnig ail-greu a chodi ffenestr liw i gymryd lle'r un a chwalwyd gan y bom yn eich eglwys. Maent yn gwneud hyn fel arwydd o gysur a chefnogaeth. ' Cafwyd ateb yn derbyn y cynnig ac yn nodi mai 'Cymru oedd yr unig wlad i gynnig cymorth uniongyrchol a materol o'r fath'. Daeth y ffenestr yn symbol o’r ffaith bod pobl o amgylch y byd yn gofalu amdanynt yn eu dioddefaint a’u haberth, tra gwelai’r rhai agosaf atynt yn ddaearyddol hwy fel estroniaid israddol. "Roedd yn amlwg y byddai’n rhaid i'r ffenestr wneud datganiad a chreu argraff seml a grymus yng nghyd-destun y trais - mor gadarnhaol a syml â neges Crist". Teimlai Petts bod ei ddyluniad gwreiddiol yn osgoi'r problemau, ac yn 'rhy wan '. Nid oedd yr Eglwys eisiau datganiad pryfoclyd ar adeg mor dyngedfennol i’r mudiad Hawliau Sifil, a phwysleisiodd John Petts nad oedd am wneud unrhyw beth a allai achosi rhagor o gynnen. Ond "roedd popeth a welais ac a glywais yno ... yn cryfhau fy argyhoeddiad na fyddai creu ffenestr hyfryd mewn gwydr lliw yn ddigon".

"Yn raddol tyfodd un syniad: ffigwr o Negro, ac eto ffigwr o Grist hefyd, ffigwr yn dioddef ar osgo’r croeshoelio, gydag un llaw wedi ei thaflu ar led mewn protest, a’r llall yn ymostyngar ... yn atgof o ffigwr y Negro’n gwingo o dan ymosodiad y pibellau tân, ei freichiau wedi’u taflu ar led. Datblygodd y ffrydiau o ddŵr a oedd yn parlysu’r ffigwr yn fariau’r Groes ac yn symbol o’r holl drais: y pibellau dŵr ar strydoedd y De, y ffrydiau o fwledi yn Sharpeville, a blaenllym y waywffon". Fel yr esbonia’r Parchedig Arthur Price, roedd darlunio Crist fel dyn du yn ddadleuol: "i lawer o bobl wyn y gymuned yn ystod y cyfnod, byddai dweud fod Iesu Grist yn ddu ac o dras Affricanaidd yn gableddus ... y neges fawr yr ydym yn ceisio’i chyfleu yn y ffenestr yw nid yn gymaint ceisio nodi lliw Crist, ond cyfleu fod Crist yn ymgysylltu â ni. Datgan wrth y gymuned wen ei lliw bod yr Iesu yr oeddynt yn ei garu hefyd yn uniaethu ei hun â’r gymuned Americanaidd Affricanaidd, felly rydych yn ei groeshoelio ef eto pan fyddwch yn erlid rhywun sy’n edrych yn wahanol i chi". Mae’r geiriau "Rydych yn ei wneud i Mi" sydd mewn patrwm ar waelod y ffenestr yn pwysleisio’r neges Gristnogol o frawdgarwch. Oddi tanynt mae'r geiriau" Rhoddwyd gan bobl Cymru, MCMLXIV".

Defnyddiodd John Petts liwiau glas a phorffor dwys sy'n tywynnu yn y golau cryf, gyda chroes o wydr lliw golau yn amlinellu'r ffigur. Mae enfys yn coroni’r pen, sy’n symbol o amrywiaeth hiliol ac undod ac yn addo diwedd y storm. Cymeradwywyd y cynllun ac arddangoswyd y ffenestr orffenedig yng Nghaerdydd cyn iddi gael ei chludo i America. Anfonodd John Petts, David Cole a Maer Caerdydd delegram i’r gwasanaeth cysegru ar ddydd Sul 6 Mehefin, 1965: "Mae meddyliau pobl Cymru yna gyda chi yn ystod y gwasanaeth cysegru. Gobeithiwn y bydd Ffenestr Cymru’n symbylu ailddatgan cariad ac undod Cristnogol". Yn y gwasanaeth gobeithiodd y gweinidog John Cross: "y byddai’n gwasanaethu fel atgof cyson bod yna bobl yn y byd sydd a’u calonnau llawn o gariad a charedigrwydd brawdol."

Datblygodd yr eglwys i fod yn leoliad hanesyddol pwysig, gan ddenu miloedd o ymwelwyr, ac ystyrir y ffenestr yn un o eiconau allweddol Mudiad Hawliau Sifil America, protest bwerus yn erbyn anoddefgarwch ac anghyfiawnder.
    
Ganwyd John Petts (1914 -1991) yn Llundain ar 10 Ionawr 1914. Astudiodd gelf yn Llundain lle cyfarfu â’i ddarpar wraig Brenda Chamberlain (1912-1971). Symudodd y ddau i Ogledd Cymru yn 1934, lle gwnaethont sefydlu’r Caseg Press ym 1937, ond gwnaethont wahanu yn 1943.

Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol y Celfyddydau Gweledol dros Gymru ym 1951, ond ymddiswyddodd yn 1956 er mwyn canolbwyntio ar ei gelf, a symudodd gyda'i ail wraig Kusha i Lansteffan. Penodwyd ef yn ddarlithydd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ym 1957, lle dysgodd dechneg gwaith gwydr lliw, ac ymddiswyddodd yn 1961 i fod yn ddylunydd llawrydd. Yn yr 1980au hwyr, symudodd ei stiwdio i'r Fenni, lle y bu farw ar 26 Awst 1991. Prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei archifau oddi wrth ei weddw yn 1994.

Cynlluniau Ffenestr Birmingham

Rhoddwyd cynlluniau John Petts o’r ‘Wales Window’ i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Dr Robert E. Morgan yn 1970. Maent yn gofnod pwysig o ymateb pobl Cymru i'r digwyddiadau hiliol erchyll yn America yn ystod y cyfnod. Mae'r casgliad yn cynnwys cyfres o ddeuddeg delwedd sy'n cynnwys astudiaethau a dyluniadau cychwynnol, y cynllun terfynol ar gyfer y ffenestr a nifer o ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cynnwys toriadau papur newydd a rhaglenni printiedig sy'n ymwneud â dylunio, dadorchuddio a chysegru’r ffenestr.

Llyfryddiaeth