Symud i'r prif gynnwys

Cyfeirnod: LlGC Llyfr Ffotograffau 542

Pan gyflwynodd Syr John Williams ei gasgliadau i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1909 ymhlith y trysorau yr oedd cyfrol o ffotograffau o olygfeydd yng ngorllewin America ynghyd â rhestr o'r cynnwys. Tynnwyd y ffotograffau gan un o'r ffotograffwyr cyntaf i deithio o gwmpas gorllewin America yn defnyddio negyddion gwydr enfawr i gofnodi'r tirlun mawreddog. Mae'r llyfr ffotograffau yn cynnwys pump a thrigain o ffotograffau gan Carleton E. Watkins, gwrthrychau prin iawn yn y Deyrnas Unedig.

Carleton E. Watkins

Ganed Carleton E. Watkins yn Efrog Newydd, ond pan drawodd y dwymyn aur ddinas San Francisco yn 1851/2 fe symudodd i fyw yno. Pan oedd yn bump ar hugain oed fe'i cyflogwyd yn gynorthwy-ydd mewn stiwdio yn tynnu portreadau a dechreuodd ddangos diddordeb yn y grefft ffotograffig. Datblygodd ddiddordeb penodol mewn ffotograffiaeth dirlun, ac wedi llawer o arbrofi cafodd mai negyddion gwydr gwlyb oedd y mwyaf addas ar gyfer ei waith gan ei bod hi'n bosibl cynhyrchu nifer o brintiau o bob negydd.

Negyddion maint mamoth

Sylweddolodd Watkins hefyd na fyddai'n bosibl cofnodi'r tirlun mawreddog yn gwbl effeithiol wrth ddefnyddio camera cyffredin, felly yn 1861 comisiynodd lunio camera arbennig a fyddai'n tynnu negyddion enfawr (ca. 45 x 55 cm.) ac fe ddechreuodd ei ddefnyddio y flwyddyn honno ar ymweliad â'r ardal a ddaeth yn ddiweddarach yn Barc Cenedlaethol Yosemite ym mynyddoedd Sierra Nevada, Califfornia. I ddweud y gwir bu ffotograffau Watkins yn rhannol gyfrifol am benderfyniad Cyngres yr Unol Daleithiau i ddynodi'r ardal ar gyfer defnydd a gwarchodaeth gyhoeddus.

Ar ei deithiau yn aml buasai Watkins yn cymryd dau neu dri chamera, yn bennaf y mamoth a'r stereosgopig. Mae'r camera stereosgopig yn cynhyrchu dau ffotograff o'r un olygfa sydd â'r un pellter rhyngddynt â llygaid dynol (rhyw 5 cm) fel bod y naill lygad yn gweld delwedd wahanol i'r llall. O edrych arnynt â syllwr stereosgopig arbennig fe allant roi'r argraff o dri dimensiwn.

Teithio gyda chamera

Ar ei daith i Yosemite yn 1861 dywedir i Watkins gymryd mamoth o gamera (rhyw ddeng modfedd ar hugain ar bob ochr ac o leiaf dair troedfedd o hyd pan wedi'i ymestyn), camera stereosgopig, tripodau, pabell dywyll, negyddion gwydr (rhai enfawr a rhai stereosgopig), cemigion a dysglau prosesu, lliaws o ategolion ffotograffig a digon o nwyddau i wersylla sawl wythnos yn y cwm. (Palmquist, t.16).

Rhaid oedd cario'r holl offer ar gefn mulod dros lwybrau peryglus, i fyny'r mynyddoedd, ar hyd y bylchau ac i lawr i'r ddyffrynnoedd, a hynny mewn ardal nad oedd llawer wedi teithio ynddi erioed. Mae bron yn amhosibl dychmygu'r ymdrech a wnaeth i gydbwyso'r angen i gymryd cymaint o blatiau gwydr â phosibl ar gyfer y negyddion a'r diffyg gofod a natur anhylaw'r platiau enfawr eu hunain.

Ar deithiau diweddarach defnyddiai Watkins y sustem reilffyrdd newydd er ei les ei hun trwy gynhyrchu ffotograffau hysbysebu i'r cwmnïau yn gyfnewid am gael teithio yn rhad ar eu trenau. Yn 1873 dechreuodd deithio mewn dau gerbyd trên: un i gludo'r holl offer a'r llall i gludo'r anifeiliaid oedd eu hangen i gario pawb i lefydd mwy diarffordd.

Gyrfa Watkins

Gweithiodd Carleton Watkins fel ffotograffydd am fwy na hanner can mlynedd a theithiodd filoedd o filltiroedd: o British Columbia yn y gogledd hyd at y ffin â México yn y de; i Ynysoedd Farlon ger San Francisco yn y gorllewin hyd at Yellowstone yn y dwyrain. (In Focus: Carleton Watkins, p.7.)

Arddangoswyd ffotograffau Watkins mewn sioeau rhyngwladol poblogaidd, fel Arddangosfa Fawr Ryngwladol Paris yn 1867, lle'r enillodd fedal am ffotograffiaeth dirlun. Gwerthid y ffotograffau yn y sioeau hyn, ond gyda phris o ryw gant a hanner o ddoleri am bob ffotograff enfawr roeddent yn eithaf drud yn eu dydd.

Nid oedd ei fywyd yn fêl i gyd. Ar rai adegau fe'i canmolwyd fel un o ffotograffwyr mwyaf ei oes, ac ar adegau eraill roedd yn fethdalwr heb geiniog i'w enw, yn dibynnu ar gyfeillion a chydnabod am gynhaliaeth. Tua diwedd ei fywyd aeth ei olwg yn wael iawn ac erbyn 1897 roedd yn dibynnu ar ei gynorthwy-ydd Turrill, a'i fab, Collis, am gymorth. Yn naeargryn mawr San Francisco 1906 a'r tân a'i dilynodd fe gollodd Watkins weddill llafur ei fywyd. Dair blynedd yn ddiweddarach fe gafodd ei farnu'n analluog a'i osod yn Ysbyty Meddwl Taleithiol Napa. Bu farw yn yr ysbyty meddwl yn 1916 a'i gladdu mewn bedd anhysbys ar dir y sefydliad.

Llyfr ffotograffau y Llyfrgell Genedlaethol

Credir mai'r llyfr ffotograffau yn y Llyfrgell Genedlaethol yw'r casgliad mwyaf, a'r unig gyfrol rwymedig, o'i waith yn y Deyrnas Unedig. Yr unig esiamplau eraill o'i waith mewn archifau cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yw'r printiau rhydd enfawr o Barc Cenedlaethol Yosemite a San Francisco sydd yng nghasgliadau'r Royal Geographical Society.

Trwy gymharu dyddiadau teithiau Watkins â thestun y ffotograffau gellir credu bod mwyafrif y ffotograffau sydd yng nghasgliadau'r Llyfrgell wedi'u tynnu rhwng 1873 ac 1883 (Palmquist, tt. 199-202). Nid yw'n waith hawdd ceisio olrhain hanes ei deithiau gan nad oedd Watkins yn cadw cofnodion ohonynt nac ychwaith yn dyddio ei ffotograffau. Ond mae'n bosibl i ryw raddau i greu cronoleg o'i deithiau drwy ddefnyddio'r dystiolaeth sydd yn ei lythyron at ei wraig, Frankie, y cofiant a ysgrifennwyd gan ei gynorthwyydd Charles B. Turrill, a'i lythyron at gyfeillion a phartneriaid busnes, megis Collis Potter Huntington (yn gysylltiedig â'r rheilffyrdd) a J. D. Whitney (aelod o Arolwg Daearegol Talaith Califfornia).

Cynnwys y llyfr ffotograffau

Y mae pump a thrigain o ffotograffau mamoth gan Carleton Watkins yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol. Fe'u ceir mewn llyfr ffotograffau wedi'i rwymo mewn lledr gwyrdd. Mae'r cynnwys yn amrywiol, yn dangos tirlun gorllewin America pan nad oedd llawer o ôl dyn arno, golygfeydd o ddinasoedd a lluniau o'r sustem reilffyrdd oedd yn datblygu ar y pryd.

Ffotograffau mamoth yw'r maint safonol mwyaf ar gyfer ffotograff, yn mesur o 46 x 50 cm (18 i 20 modfedd) hyd at 50 x 61 cm (20 i 24 modfedd). Yr oeddent yn boblogaidd iawn ymhlith ffotograffwyr tirlun y 1860au a'r 1870au gan eu bod yn berffaith ar gyfer eu harddangos neu eu gosod mewn llyfrau ffotograffau fel y casgliad hwn.

Yosemite

Ceir rhyw 16 ffotograff o ardal Parc Cenedlaethol Yosemite. Ar y pryd nid oedd Yosemite wedi'i ddynodi yn barc cenedlaethol, a dim ond gyda chymorth ffotograffau ac ymgyrchu Watkins y rhoddwyd y statws hwnnw i'r ardal gan yr Arlywydd Abraham Lincoln. Dechreuodd Watkins dynnu ffotograffau yn Yosemite tua 1861, ac o'r pryd hwnnw tan ei farwolaeth gwyddys iddo ymweld â'r ardal rhyw wyth gwaith. Mae casgliad y Llyfrgell yn cynnwys yn bennaf ffotograffau o raeadrau, llynnoedd a mynyddoedd y parc.

Mae un o'r ffotograffau, yn dwyn y teitl "Mirror Lake, Yosemite Valley" (eitem 14), yn dangos y mynydd a enwyd ar ôl Carleton Watkins gan aelodau Arolwg Daearegol Talaith Califfornia yn 1865 fel teyrnged i'w waith yn trefnu cofnodi a mapio tirwedd y dalaith honno am y tro cyntaf erioed. Ceir hefyd ffotograffau o'r "Mariposa Big Trees", celli o goed secwoia anferthol ym Mharc Cenedlaethol Yosemite. Un o'r mwyaf diddorol yw llun o goeden wedi'i thorri i lawr gydag ysgol ar ei hochr fel ei bod yn bosibl dringo i ben y boncyff (Eitem 29, "The pavilion on the stumps"). Dengys ffotograff arall y goeden a adwaenir fel "Mother of the forest" (Eitem 1), y dywedir ei bod hi'n 321 troedfedd o uchder a 28 troedfedd ar led, gyda gwraig yn sefyll nesaf at y boncyff. Mae'r ffotograff yn 53.5 cm o uchder gyda'r wraig yn mesur tua 5 cm. Defnyddia Watkins ffotograffau fel hyn i ddangos mor enfawr yw'r tirlun.

Mae'r ffotograff "Lake Tahoe from Tahoe City" (Eitem 60) yn fwy adnabyddus o dan y teitl "A storm on Lake Tahoe", ond mae cyfnod y datguddiad ar hwn yn llawer byrrach nag ar gopïau eraill, fel y bo'r llyn yn ymddangos yn dawel ac ni welir mo'r cymylau tywyll nag amlinelliad y coed.

Trefluniau

Ceir hefyd bump o ffotograffau yn y llyfr o gyfres Cenadaethau Califfornia, a dynnwyd gan Watkins tua 1876, ynghyd â golygfeydd o Virginia City a Dinas y Llyn Halen.

Mae un o'r ddau ffotograff o Ddinas y Llyn Halen (Eitemau 55, 56) yn arbennig o ddiddorol gan ei fod yn cynnwys gosod sylfeini tabernacl Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf (Y Mormoniaid), sy'n ei gwneud hi'n haws i ddyddio'r ffotograff i tua 1873. Gellir dyddio ffotograffau Virginia City (Eitemau 32-34) mewn ffordd debyg, oherwydd y maent yn cynnwys y Fourth Ward School a godwyd yn 1876, flwyddyn ar ôl i'r ddinas gael ei difrodi gan dân.

Gellir gosod dau o ffotograffau Virginia City at ei gilydd i ffurfio panorama (Eitemau 32, 33). Ceir panorama gwahanol o Virginia City yng nghasgliadau Llyfrgell Bancroft, Prifysgol Califfornia Berkeley (Plât 55 yn Palmquist, 1983), y credir iddo gael ei dynnu yn 1876, ac mae'n bosibl fod y ddau banorama wedi'u cymryd ar yr un ymweliad â'r ddinas.

Rheilffyrdd a diwydiant

Diddorol hefyd yw'r ffotograffau o'r sustem reilffyrdd oedd yn datblygu ar y pryd yn dangos gorsafoedd coed (Eitem 58, "End of Flome at Caison"), y gweithwyr, a'r siediau eira (Eitem 57, "Summit Station, C.P.R.R."). Mae'r ffotograff "Cape Horn, C.P.R.R." (Eitem 44) yn esiampl wych yn dangos maint y trenau ager cynnar. Mae'n dangos trên sy'n llonydd gyda'r teithwyr yn sefyll ar do'r cerbydau yn edrych ar y ffotograffydd. Mae'r gwahaniaeth rhwng maint y teithwyr a maint y peiriant yn amlwg iawn ac yn tynnu'r sylw, ond mae'r gwahaniaeth rhwng maint y trên a'r olygfa o'r wlad agored ar ochr dde'r ffotograff yn tynnu'r sylw yn yr un modd yn gywir.

Ceir ffotograffau eraill sy'n dangos diwydiannu fel y "Blue Tent Mines" a "Blue Tent Ditch Saw Mill" a melin lifio Califfornia (Eitemau 21, 24-26). Mae'r ffotograff "River mining on the Tuolumne" (Eitem 47) yn dangos carthlongau yn gweithio ar hyd yr afon a gwersyllfa'r gweithwyr ar y lan.

Hynodion natur

Mae'r ffotograffau hefyd yn dangos ffurfiau daearegol diddorol, fel y Devils War Club (Eitem 40, "The Devils War Club, Witch Rocks, W.P.R.R.") a chreigiau Conglomerate (Eitem 48, "Conglomerate Amador Grande, Alpine Co."), yn ogystal â rhyfeddodau fel y cactws yn Arizona (Eitem 36, "Cerens Gigantius, Arizona") a'r goeden bapur yn anialwch Mohave (Eitem 50).

Ffotograffau gan Watkins mewn casgliadau eraill

Mae casgliad y Llyfrgell Genedlaethol o ffotograffau Watkins yn un prin a phwysig yn y cyd-destun Prydeinig, a hyd yn oed yn y cyd-destun Americanaidd. Dim ond un casgliad arall o waith Watkins sydd i'w gael mewn archif gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, sef un y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Llundain, sydd â 34 o brintiau enfawr (mamoth) wedi'u mowntio ar gerdyn. Ceir nifer fawr o gasgliadau ffotograffau Watkins yn yr Unol Daleithiau ac ymhlith y mwyaf y mae un Amgueddfa J. Paul Getty sydd yn cynnwys 1,400 ac yn eu plith ceir 187 o brintiau enfawr (mamoth) tebyg i'r rhai sydd yng nghasgliad y Llyfrgell.

Darllen pellach ac adnoddau eraill

  • Peter E. Palmquist, Carleton E. Watkins: photographer of the American west. Albuquerque, University of New Mexico Press, 1983.
  • In Focus: Carleton Watkins. Los Angeles: J. Paul Getty Museum, 1997.