Symud i'r prif gynnwys

Perffaith a phrydferth: ffotograffiaeth gynnar yn Abertawe

Am gyfnod o ryw bymtheng mlynedd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe wnaeth rhai pobl yn Abertawe fopio eu pennau'n lân ar ffotograffiaeth. Hwy oedd y cyntaf i lunio llyfrau ffotograffau teuluol yn cynnwys lluniau o'u cyfeillion a'u perthnasau gan ddangos y cynhesrwydd a hyfrydwch y bywyd llawn a oedd yn bodoli y tu ôl i furiau rai o ystadau mawrion Cymru oes Victoria. Dengys y ffotograffau eu diddordeb a'u gwybodaeth o gelfyddyd a gwyddoniaeth. Roedd eu hastudiaethau ffotograffig o blanhigion ac anifeiliaid hefyd yn astudiaethau biolegol, a gallai ffotograff o dirlun neu arweddion creigiau yng ngogledd Cymru neu yng Nghernyw gael ei gysylltu â'r chwyldro deallusol a ddaeth yn sgil astudio daeareg a'r damcaniaeth newydd esblygiad. Yr oeddent hefyd yn gyfrifol am ddarganfyddiadau technegol pwysig gan dynnu'r ffotograffau 'instantaneous' cyntaf erioed. Galluogai'r ffotograffau hyn hwy i rewi symudiadau'r tonau neu lifeiriant nentydd, gan greu delweddau a alwent yn 'bennod ddilys yn hanes y byd.' Y technegau hyn hefyd a'u galluogai i roi ar gof a chadw y wên a ymddangosai am ennyd ar wyneb bachgen ifanc. Iddynt hwy, 'roedd ffotograffiaeth o ran cywirdeb â'r gallu i ddylunio natur fel yr oedd mewn gwirionedd, yn "rhyfeddol o berffaith a phrydferth", ac allan o hynny daeth uchelgais yr artist i'r amlwg. "Pwy fydd yn fodlon ar waith dwylo dynion pan fo'n bosib iddynt gael gwaith pelydrau'r haul?" holai ffotograffwyr Abertawe. O Fae Abertawe i Fôr Canoldir fe arsyllant ar brydferthwch natur a rhyfeddod gwaith dwylo dyn, gan greu ffotograffau a oedd i fod yn gampweithiau celfyddydol i herio gwaith Michaelangelo ei hun.

Efallai ein bod ni heddiw wedi ymgyfarwyddo â ffotograffau i'r fath raddau nes colli'r gallu i'w gweld o'r newydd fel darluniau. Rhan o lwyddiant y ffotograffwyr cynnar hyn oedd bod eu hymchwil a'u gwaith wrth ddatblygu'r cyfrwng newydd wedi golygu iddo gael ei dderbyn yn gyflym a'i gymryd yn ganiataol. O'r herwydd fe all fod yn anodd iawn gweld y ffotograffau cynnar hyn yn yr un ffordd ac yr oeddent yn cael eu gweld pan y'u tynnwyd. Ond golyga treigl amser fod rhai delweddau wedi magu bywyd newydd. Mae'r ffotograff o arfordir Gwyr sy'n dangos merched Penlle'r-gaer, yn ifanc a gosgeiddig, yn erbyn cefndir y clogwyni, yn elfennau sy'n ymddangos yn ddiamser ac o dragwyddoldeb. Erys bywyd cenhedlaeth sydd wedi hen farw yn y ddelwedd hon o ennyd ddisymwth, ac fe deimlwn nerth emosiynol ffotograffiaeth wrth inni gael ein hatgoffa am freuder bywyd dynol. Yn y ffotograffau hyn ac eraill nid ydym ond megis dechrau cydnabod gorchest ffotograffwyr Abertawe a gweld bod eu gwaith hwy yn gwbl berffaith a phrydferth fel yr oeddent hwy yn credu ei fod.

Darllen pellach

  • Buckman, Rollin, The Photographic Work of Calvert Richard Jones, Llundain: HMSO, 1990
  • Cox, Julian, "From Swansea to the Menai Straits: Towards a History of Photography in Wales", M.Phil., Prifysgol Cymru, 1990
  • Haworth-Booth, Mark, The Golden Age of British Photography, 1839-1900, Llundain: 1984
  • HTV Cymru Wales. Calvert in Camera. Caerdydd: 1990.
  • Jones, Iwan Meical, "Scientific visions: the photographic art of William Henry Fox Talbot, John Dillwyn Llewelyn and Calvert Richard Jones", Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1990): 117-192
  • Jones, Iwan Meical, "Albwm Ffotograffau Susan Franklen", Cyfaill y Llyfrgell (Gwanwyn 2003)
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru, "Calvert Richard Jones a Daguerreoteip Castell Margam", Testun arddangosfa, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000
  • Morris, Richard, John Dillwyn Llewelyn, 1810-1882, the First Photographer in Wales, Cardiff: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1980
  • Morris, Richard, Penllergare: a Victorian Paradise: a Short History of the Penllergare Estate and its Creator John Dillwyn Llewelyn (1810-82), Llandeilo: The Friends of Penllergare, 1999
  • Painting, David, Swansea's Place in the History of Photography, Abertawe: Royal Institution of South Wales, 1982