Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ceir 17 o brintiau halen yn y llyfr ffotograffau hwn sy'n cynnwys golygfeydd o ardal Gwyr gan gynnwys Bae Caswell, eglwys Oxwich, Penlle'r-gaer a Neuadd y Sgeti. Mae hefyd yn cynnwys golygfeydd trawiadol a gafaelgar gan Mary Dillwyn o bentrefi Ystumllwynarth a'r Mwmbwls. Tynnwyd golygfa o Ystumllwynarth o'r castell gan ddefnyddio ffenestr i fframio cychod pysgota ar y traeth, clwstwr o dai pysgotwyr a goleudy'r Mwmbwls yn y pellter. Mae golygfa arall o'r Mwmbwls yn rhoi ymdeimlad o'r Canoldirol i'r rhan hon o benrhyn Gwyr.
Nodiadau ychwanegol gan Mr Richard Morris o Abertawe (dogfen PDF)