Symud i'r prif gynnwys

Y daguerreotype o Gastell Margam a dynnwyd gan y Parch. Calvert Richard Jones ar 9fed Mawrth 1841, yw un o'r ffotograffau Cymreig cynharaf (a ddyddiwyd yn gywir) sy'n hysbys, a'r unig daguerreotype gan Calvert Jones a oroesodd hyd y gwyddys. Mae'r dyddiad cynnar ac ansawdd y llun yn ei wneud yn un o'r delweddau pwysicaf yn hanes ffotograffiaeth. Anwybyddwyd gwaith y ffotograffydd am dros ganrif a dim ond yn awr y dechreuir cydnabod ei athrylith.

Darllen Pellach

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Calvert Richard Jones a Daguerreoteip Castell Margam." Testun arddangosfa. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000.