Symud i'r prif gynnwys

Am y tro cyntaf roedd yn bosib dogfennu holl agweddau bywyd drwy lens camera, gan roddi gwir bortreadau, yn hytrach nag argraff arlunydd. Yng nghasgliad ffotograffau mewn casys y Llyfrgell Genedlaethol, ceir gwahanol fathau o ffotograffau cynnar, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn dal yn eu casys lledr, efydd a melfed gwreiddiol.

Daguerreoteipiau

Daguerreoteipiau oedd y math cynharaf o ffotograffau mewn casys. Datgelwyd y broses yn Awst 1839 a daliodd ddychymyg y cyhoedd yn fuan iawn.

Cynhyrchwyd y delweddau ffotograffig hyn ar sylfaen arian gan effaith golau ar ïodid, ac ni chrëwyd negydd fel rhan o’r broses. Gan fod y delweddau dilynol yn fregus iawn, yn aml cyflwynwyd Daguerreoteipiau mewn casys lledr a melfed, tu ôl i ddalen o wydr amddiffynnol. Roedd portreadau Daguerreoteip yn bryniadau moethus a daethant yn eitemau angenrheidiol y cyfnod i’r dosbarthiadau uwch a chanol; wedi’r cyfan, nhw oedd yr unig rai a fedrai eu fforddio. Dau y tynnwyd lluniau Daguerreoteip ohonynt oedd Hugh Price, Castell Madog, a Thomas Jones, brawd John Jones, Talhaiarn.

Ambroteipiau

Wrth i dechnoleg ddatblygu, ymddangosodd prosesau rhatach ar y farchnad. Daeth ffotograffau Ambroteip (a elwir hefyd yn bositifau colodion gwlyb) yn boblogaidd yn yr 1850au cynnar. Drwy’r  broses Ambroteip daliwyd delweddau ffotograffig ar blatiau gwydr a orchuddiwyd gan haenen denau o colodion, a hynny tra bod y plât yn dal yn wlyb. Fel arfer cadwyd Ambroteipiau mewn casys amddiffynnol a’u gosod mewn ffrâm fetel. Erbyn yr 1850au hwyr, daeth Ambroteipiau yn fwy poblogaidd na Daguerreoteipiau. Gan fod angen llai o amser datguddio, gellid eu cynhyrchu'n gyflymach ac yn rhatach hefyd, gan nad oedd rhaid argraffu. Mae'r portreadau o Richard ac Elen Richards a Hugh Williams Kyffin yn enghreifftiau o'r ffotograffau Ambroteip sydd yn ein casgliad.

Tunteipiau

Roedd cynhyrchiad ffotograffau Tunteip, a adweinid yn wreiddiol fel Melainoteipiau, (ac a elwir hefyd yn Fferoteipiau), hyd yn oed yn rhatach na’r broses Ambroteip, ac yn ôl y dull hwn cynhyrchwyd delweddau ar ddalenni metel yn hytrach na gwydr. Cyflwynwyd y broses hon yn 1853, a thrwyddi daeth cynnydd mewn ffotograffiaeth ar y stryd. Roedd yn bosibl i ddechrau busnes ffotograffiaeth Tunteip heb fawr ddim cyfalaf, ac roedd y delweddau eu hunain yn rhad i’w cynhyrchu. Dechreuodd nifer o ffotograffwyr di-grefft  fasnachu mewn ffotograffiaeth Tunteip, ac o ganlyniad roedd safon delweddau o’r fath yn amrywiol. Er hynny, oherwydd pris isel Tunteipiau daeth ffotograffiaeth yn fforddiadwy hyd yn oed i’r dosbarth gweithiol. Mae gennym ffotograffau Tunteip o Mrs Jane Parry, William Meredith ac eraill.

Dosbarth a chyfoeth

Gellir gweld sut y daeth ffotograffau yn fwy fforddiadwy fel yr aeth y ganrif yn ei blaen drwy gyferbynnu statws cymdeithasol eisteddwyr mewn portreadau Daguerreoteip gyda rhai mewn prosesau hwyrach. Mae’r Daguerreoteipiau a’r Ambroteipiau cynnar yn y casgliad hwn yn bortreadau o rai o deuluoedd mwyaf cyfoethog Cymru - diwydianwyr megis Teulu’r Crawshay, Cyfarthfa, a thirfeddianwyr fel Teulu’r Campbell o Gawdor. Mewn cyferbyniad, mae eisteddwyr yn y portreadau Tunteip yn dod o dras fwy gwerinol, fel Corporal John Griffiths Jones a fu farw wrth ymladd dros achos yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America. Ceir hefyd esiamplau eraill o eisteddwyr Ambroteipiau a Thunteipiau yn agosach at adref megis ffermwyr tenant a siopwyr fel y Teulu Humphreys, haearnwerthwyr o Lanfair Caereinion.

Yn anffodus mae nifer o’r portreadau yn awr yn ddienw. Mae rhai eraill, megis y portread Ambroteip tybiedig o’r astrolegydd a’r ffisigwr Dr John Harries o Gwrtycadno, wedi’u labelu yn anghywir. Gan y bu Dr Harries (ca.1785-1839) farw cyn i’r Ambroteip gael ei ddyfeisio, mae’n fwy tebygol taw portread o Henry, ei fab ydyw. Fodd bynnag, pun ai yw’r eisteddwyr yn adnabyddus ai peidio, mae’r ffotograffau mewn casys yng nghasgliad y Llyfrgell yn darparu cofnod gwerthfawr iawn o berthynas Cymru â ffotograffiaeth - yn ei blynyddoedd cynnar yng nghanol y 19eg ganrif a thu hwnt.

Darllen pellach

  • Helmut Gernsheim, The Origins of Photography (Llundain, 1983)
  • Helmut Gernsheim, The Rise of Photography 1850-1880 (Llundain, 1988)
  • Audrey Linkman, The Victorians: Photographic Portraits (Llundain, 1993)
  • Beaumont Newhall, The Daguerreotype in America (Efrog Newydd, 1976)
  • Naomi Rosenblum, A World History of Photography (Efrog Newydd, 1989)