Symud i'r prif gynnwys

Percy Benzie Abery (1877-1948)

Roedd P B Abery yn fab i groser ac yn un o 13 o blant ac yn hanu o Folkestone yn swydd Caint. Daeth i fyw yn Llanfair ym Muallt yn 1898. Pan oedd ond yn 21 oed prynodd fusnes ffotograffiaeth bychan, ac yn 1911 fe symudodd i adeilad mwy, sef y West End Studio, lle'r arhosodd tan ei farwolaeth yn 1948.

Yn yr haf, byddai P B Abery yn gwneud ei fywoliaeth wrth dynnu lluniau’r bobl a fyddai’n ymweld â’r Ffynhonnau. Byddai’r ffotograffau'n cael eu harddangos y tu allan i’r siop fore trannoeth, a byddai twr o bobl yn ymgynnull yno i chwilio am luniau ohonynt eu hunain.

Roedd P B Abery yn hoff iawn o’r awyr agored, a byddai wrth ei fodd yn crwydro’r wlad yn tynnu lluniau o olygfeydd a bywyd gwledig Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Gororau Lloegr. Pan gychwynnodd y Birmingham Water Works ar waith adeiladu’r argaeau yng Nghwm Elan, fe'i penodwyd yn ffotograffydd swyddogol y cynllun. Ym mis Rhagfyr 1947, ychydig cyn ei farwolaeth, cynhaliwyd arddangosfa o luniau argaeau P B Abery yn y Birmingham Civic Centre.

Roedd P B Abery hefyd yn gyfrannwr cyson ar faterion amaeth a chwaraeon i’r papurau newydd dyddiol cenedlaethol a’r papurau newydd wythnosol.

Gellir chwilio casgliad ffotograffau P B Abery ymhellach drwy'r Catalog.

 

Mae llyfr ffoto Pasiant Llanfair ym Muallt yn cynnwys tua 160 o ffotograffau, toriadau’r wasg ac effemera sy’n ymwneud â’r pasiant mawreddog a berfformiwyd ar faes Neuadd Llanelwedd ar 11 Awst 1909. Tynnwyd y ffotograffau gan P B Abery a Wallace Jones.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd pasiantau yn boblogaidd iawn ac yn cynnwys perfformiadau a fyddai fel arfer yn adrodd digwyddiadau hanesyddol. Yn yr un flwyddyn cynhaliwyd y Pasiant Cenedlaethol Cymreig yng Ngerddi Soffia yng Nghaerdydd.

Roedd y pasiant yn ddigwyddiad ysblennydd. Yn ôl adysgrif sydd wedi ei chynnwys yn yr albwm, cymerodd flwyddyn i baratoi’r digwyddiad, bu 1000 o bobl yn rhan o’r paratoadau, ac adroddir fod tyrfa o tua 5000 yn ei wylio.

Cyflwynwyd yr albwm i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Gymdeithas Ddatblygu Llanfair ym Muallt.

Darllen pellach

  • Edwards, Hywel Teifi. Codi’r hen wlad yn ei hôl : 1850-1914. Llandysul: Gwasg Gomer, 1989
  • Edwards, Hywel Teifi. The National Pageant of Wales. Llandysul: Gwasg Gomer, 2009
  • Hereford Times. August 14, 1909
  • The Brecon County Times. August 13, 1909
  • The Brecon and Radnor Express and County Times. January 22, 1948
  • The Brecon and Radnor Express. August 19, 1901
  • Welson, John (Gol.). Photographs of Radnorshire: P.B. Abery. Little Logaston: Logaston Press, 2008
  • Withington, Robert. English pageantry: an historical outline. London: Benjamin Blom, 1963